Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:34-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Wrth iddynt weiddi, ffodd yr holl Israeliaid oedd o'u hamgylch, gan ddweud, “Rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau!”

35. Yna daeth tân oddi wrth yr ARGLWYDD a difa'r ddau gant a hanner o ddynion oedd yn offrymu arogldarth.

36. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

37. “Dywed wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad am godi'r thuserau allan o'r goelcerth, am eu bod yn sanctaidd, a thaenu'r tân ar wasgar;

38. yna y mae thuserau'r rhai a bechodd, ac a fu farw, i'w curo'n blatiau i wneud caead ar yr allor, oherwydd y maent yn sanctaidd am iddynt gael eu hoffrymu gerbron yr ARGLWYDD; felly byddant yn arwydd i bobl Israel.”

39. Yna cymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, a offrymwyd gan y rhai a gafodd eu llosgi, ac fe'u curwyd i wneud caead i'r allor,

40. i atgoffa pobl Israel nad oedd neb heblaw'r rhai oedd yn gymwys, sef disgynyddion Aaron, i ddynesu i losgi arogldarth gerbron yr ARGLWYDD, rhag iddo fod fel Cora a'i gwmni. Gwnaed hyn fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Eleasar trwy Moses.

41. Trannoeth dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dweud, “Yr ydych wedi lladd pobl yr ARGLWYDD.”

42. Ac wedi i'r cynulliad ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, troesant at babell y cyfarfod a gwelsant gwmwl yn ei gorchuddio a gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos.

43. Yna daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod,

44. a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

45. “Ewch ymaith o blith y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith.” Syrthiasant ar eu hwynebau,

46. a dywedodd Moses wrth Aaron, “Cymer thuser, a rho ynddo dân oddi ar yr allor, a gosod arno arogldarth, a dos rhag blaen at y cynulliad, a gwna gymod drostynt; daeth digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD, ac y mae'r pla wedi dechrau.”

47. Gwnaeth Aaron fel yr oedd Moses wedi dweud, a rhedodd i ganol y cynulliad, ond gwelodd fod y pla eisoes wedi dechrau ymhlith y bobl. Rhoddodd arogldarth ar y thuser, a gwnaeth gymod dros y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16