Wedi iddynt ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, dywedasant wrthynt, “Yr ydych wedi cymryd gormod arnoch eich hunain. Y mae pob un o'r holl gynulliad yn sanctaidd, ac y mae'r ARGLWYDD gyda hwy; pam felly yr ydych chwi yn eich dyrchafu eich hunain uwchlaw cynulliad yr ARGLWYDD?”