Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:26-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Yna dywedodd wrth y cynulliad, “Ewch allan o bebyll y dynion drwg hyn, a pheidiwch â chyffwrdd â dim o'u heiddo, rhag ichwi gael eich difa am eu holl bechodau hwy.”

27. Felly aethant draw oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram; a daeth Dathan ac Abiram allan gyda'u gwragedd, eu plant a'u rhai bychain, a sefyll wrth ddrws eu pebyll.

28. Dywedodd Moses, “Cewch wybod trwy hyn mai'r ARGLWYDD a'm hanfonodd i wneud yr holl bethau hyn, ac nad o'm dyfais fy hun y gwneuthum hwy.

29. Os bydd y dynion hyn farw'n naturiol, a phrofi'r un ffawd ag sy'n dod yn arferol i bobl, yna nid yw'r ARGLWYDD wedi fy anfon.

30. Ond os gwna'r ARGLWYDD rywbeth newydd, trwy beri i'r ddaear agor ei genau a'u llyncu hwy a phopeth a berthyn iddynt, fel eu bod yn disgyn yn fyw i Sheol, yna byddwch yn gwybod bod y dynion hyn wedi dirmygu'r ARGLWYDD.”

31. Fel yr oedd yn gorffen dweud hyn i gyd, holltodd y tir odanynt,

32. ac agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a'u tylwyth, a holl ddynion Cora a'u heiddo i gyd.

33. Felly disgynasant hwy, a phawb oedd gyda hwy, yn fyw i Sheol; yna caeodd y ddaear amdanynt, a difawyd hwy o blith y cynulliad.

34. Wrth iddynt weiddi, ffodd yr holl Israeliaid oedd o'u hamgylch, gan ddweud, “Rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau!”

35. Yna daeth tân oddi wrth yr ARGLWYDD a difa'r ddau gant a hanner o ddynion oedd yn offrymu arogldarth.

36. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

37. “Dywed wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad am godi'r thuserau allan o'r goelcerth, am eu bod yn sanctaidd, a thaenu'r tân ar wasgar;

38. yna y mae thuserau'r rhai a bechodd, ac a fu farw, i'w curo'n blatiau i wneud caead ar yr allor, oherwydd y maent yn sanctaidd am iddynt gael eu hoffrymu gerbron yr ARGLWYDD; felly byddant yn arwydd i bobl Israel.”

39. Yna cymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, a offrymwyd gan y rhai a gafodd eu llosgi, ac fe'u curwyd i wneud caead i'r allor,

40. i atgoffa pobl Israel nad oedd neb heblaw'r rhai oedd yn gymwys, sef disgynyddion Aaron, i ddynesu i losgi arogldarth gerbron yr ARGLWYDD, rhag iddo fod fel Cora a'i gwmni. Gwnaed hyn fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Eleasar trwy Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16