16. Dywedodd Moses wrth Cora, “Yr wyt ti a'th holl gwmni ac Aaron i fod yn bresennol gerbron yr ARGLWYDD yfory.
17. Y mae pob un i gymryd ei thuser a rhoi arogldarth ynddo, a dod ag ef gerbron yr ARGLWYDD; yr wyt ti, Aaron, a phob un arall i ddod â thuser, a bydd dau gant a hanner ohonynt.”
18. Felly cymerodd pob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arnynt, a sefyll gyda Moses ac Aaron wrth ddrws pabell y cyfarfod;
19. ac ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl gynulliad.
20. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
21. “Ymwahanwch oddi wrth y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith.”
22. Ond syrthiasant hwy ar eu hwynebau, a dweud, “O Dduw, Duw ysbryd pob cnawd, a wyt am ddigio wrth yr holl gynulliad am fod un dyn wedi pechu?”
23. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
24. “Dywed wrth y cynulliad am fynd ymaith oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram.”
25. Cododd Moses ac aeth at Dathan ac Abiram, a dilynodd henuriaid Israel ef.
26. Yna dywedodd wrth y cynulliad, “Ewch allan o bebyll y dynion drwg hyn, a pheidiwch â chyffwrdd â dim o'u heiddo, rhag ichwi gael eich difa am eu holl bechodau hwy.”