Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:10-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Y mae wedi caniatáu i ti a'th holl frodyr, meibion Lefi, ddynesu ato; a ydych am geisio bod yn offeiriaid hefyd?

11. Yr wyt ti a'th holl gwmni wedi ymgynnull yn erbyn yr ARGLWYDD; pam, felly, yr ydych yn grwgnach yn erbyn Aaron?”

12. Yna galwodd Moses am Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ond dywedasant hwy, “Nid ydym am ddod.

13. Ai peth dibwys yw dy fod wedi dod â ni allan o wlad yn llifeirio o laeth a mêl, i'n lladd yn yr anialwch? A wyt hefyd am dy osod dy hun yn bennaeth arnom?

14. Yn wir, ni ddaethost â ni i wlad yn llifeirio o laeth a mêl, na rhoi inni faes na gwinllan yn feddiant. A wyt am ddallu'r dynion hyn? Nid ydym am ddod.”

15. Yr oedd Moses yn ddig iawn, a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Paid ag edrych ar eu hoffrwm. Ni chymerais gymaint ag un asyn oddi arnynt, ac nid wyf wedi gwneud cam â'r un ohonynt.”

16. Dywedodd Moses wrth Cora, “Yr wyt ti a'th holl gwmni ac Aaron i fod yn bresennol gerbron yr ARGLWYDD yfory.

17. Y mae pob un i gymryd ei thuser a rhoi arogldarth ynddo, a dod ag ef gerbron yr ARGLWYDD; yr wyt ti, Aaron, a phob un arall i ddod â thuser, a bydd dau gant a hanner ohonynt.”

18. Felly cymerodd pob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arnynt, a sefyll gyda Moses ac Aaron wrth ddrws pabell y cyfarfod;

19. ac ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl gynulliad.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16