3. a phan fyddwch yn offrymu o'ch gwartheg neu o'ch defaid offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, boed yn boethoffrwm neu'n aberth cyffredin, boed yn offrwm i gyflawni adduned neu'n offrwm gwirfodd neu'n un a gyflwynir ar eich gwyliau penodedig,
4. yna y mae'r sawl sy'n offrymu i ddod â bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, sef degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew;
5. y mae hefyd i baratoi gyda'r poethoffrwm chwarter hin o win yn ddiodoffrwm a'i gyflwyno gyda phob oen a offrymir yn aberth.
6. Os offrymir hwrdd, deuer â bwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â thraean hin o olew,
7. ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â thraean hin o win; byddant yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
8. Os offrymir bustach ifanc yn boethoffrwm neu'n aberth, boed i gyflawni adduned neu'n heddoffrwm i'r ARGLWYDD,
9. yna deuer â bwydoffrwm o dair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â hanner hin o olew,
10. ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â hanner hin o win; bydd yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
11. Felly y gwneir â phob ych, hwrdd, oen gwryw a gafr,
12. pa faint bynnag ohonynt y byddwch yn eu hoffrymu.
13. Dyma sut y mae'r holl frodorion i offrymu offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.’