Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 15:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi i chwi i fyw ynddi,

3. a phan fyddwch yn offrymu o'ch gwartheg neu o'ch defaid offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, boed yn boethoffrwm neu'n aberth cyffredin, boed yn offrwm i gyflawni adduned neu'n offrwm gwirfodd neu'n un a gyflwynir ar eich gwyliau penodedig,

4. yna y mae'r sawl sy'n offrymu i ddod â bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, sef degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew;

5. y mae hefyd i baratoi gyda'r poethoffrwm chwarter hin o win yn ddiodoffrwm a'i gyflwyno gyda phob oen a offrymir yn aberth.

6. Os offrymir hwrdd, deuer â bwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â thraean hin o olew,

7. ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â thraean hin o win; byddant yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

8. Os offrymir bustach ifanc yn boethoffrwm neu'n aberth, boed i gyflawni adduned neu'n heddoffrwm i'r ARGLWYDD,

9. yna deuer â bwydoffrwm o dair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â hanner hin o olew,

10. ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â hanner hin o win; bydd yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

11. Felly y gwneir â phob ych, hwrdd, oen gwryw a gafr,

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 15