Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 11:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Galwodd y bobl ar Moses, a phan weddïodd ef ar yr ARGLWYDD, fe ddiffoddodd y tân.

3. Galwodd enw'r lle hwnnw yn Tabera, am i dân yr ARGLWYDD losgi yn eu plith.

4. Dechreuodd y lliaws cymysg oedd yn eu mysg chwantu bwyd, ac wylodd pobl Israel eto, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta?

5. Yr ydym yn cofio'r pysgod yr oeddem yn eu bwyta yn rhad yn yr Aifft, a'r cucumerau, y melonau, y cennin, y wynwyn a'r garlleg;

6. ond yn awr, darfu am ein harchwaeth, ac nid oes dim i'w weld ond manna.”

7. Yr oedd y manna fel had coriander, ac o'r un lliw â grawnwin.

8. Âi'r bobl o amgylch i'w gasglu, ac wedi iddynt ei falu mewn melinau, ei guro mewn morter, a'i ferwi mewn crochanau, gwnaent deisennau ohono. Yr oedd ei flas fel petai wedi ei bobi ag olew.

9. Pan ddisgynnai'r gwlith ar y gwersyll gyda'r nos byddai'r manna yn disgyn hefyd.

10. Clywodd Moses y teuluoedd i gyd yn wylo, pob un yn nrws ei babell; enynnodd llid yr ARGLWYDD yn fawr, a bu'n ddrwg gan Moses.

11. Yna dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Pam y gwnaethost dro gwael â'th was? Pam na chefais ffafr yn dy olwg, fel dy fod wedi gosod baich yr holl bobl hyn arnaf?

12. Ai myfi a feichiogodd ar yr holl bobl hyn? Ai myfi a'u cenhedlodd? Pam y dywedi wrthyf, ‘Cluda hwy yn dy fynwes, fel y bydd tadmaeth yn cludo plentyn sugno, a dos â hwy i'r wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'w hynafiaid’?

13. O ble y caf fi gig i'w roi i'r holl bobl hyn? Y maent yn wylo ac yn dweud wrthyf, ‘Rho inni gig i'w fwyta.’

14. Ni allaf gario'r holl bobl hyn fy hunan; y mae'r baich yn rhy drwm imi.

15. Os fel hyn yr wyt am wneud â mi, yna lladd fi yn awr, os wyf i gael ffafr yn dy olwg, rhag i mi weld fy nhrueni.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 11