Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 11:15-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Os fel hyn yr wyt am wneud â mi, yna lladd fi yn awr, os wyf i gael ffafr yn dy olwg, rhag i mi weld fy nhrueni.”

16. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla i mi ddeg a thrigain o henuriaid Israel, rhai y gwyddost eu bod yn henuriaid y bobl ac yn swyddogion drostynt, a chymer hwy i babell y cyfarfod, a gwna iddynt sefyll yno gyda thi.

17. Fe ddof finnau i lawr a llefaru wrthyt yno, a chymeraf beth o'r ysbryd sydd arnat ti a'i roi arnynt hwy; byddant hwy gyda thi i gario baich y bobl, rhag iti ei gario dy hunan.

18. Dywed wrth y bobl, ‘Ymgysegrwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig; oherwydd yr ydych wedi wylo yng nghlyw'r ARGLWYDD, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta? Yr oeddem yn dda ein byd yn yr Aifft.” Felly fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chewch fwyta.

19. Byddwch yn ei fwyta nid am un diwrnod, na dau, na phump, na deg, nac ugain,

20. ond am fis cyfan, nes y bydd yn dod allan o'ch ffroenau, a chwithau'n ei gasáu; oherwydd yr ydych wedi gwrthod yr ARGLWYDD, sydd yn eich plith, trwy wylo yn ei glyw, a dweud, “Pam y daethom allan o'r Aifft?” ’ ”

21. Ond dywedodd Moses, “Dyma fi yng nghanol chwe chan mil o wŷr traed, ac eto dywedi, ‘Rhof iddynt gig i'w fwyta am fis cyfan!’

22. A leddir defaid a gwartheg er mwyn eu digoni? Neu a fydd holl bysgod y môr, wedi eu casglu ynghyd, yn ddigon ar eu cyfer?”

23. Atebodd yr ARGLWYDD ef, “A yw llaw yr ARGLWYDD yn rhy fyr? Cei weld yn y man a wireddir f'addewid iti ai peidio.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 11