Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 6:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Pan glywodd ein holl elynion, a phan welodd yr holl genhedloedd o'n hamgylch, yr oedd y peth yn rhyfeddol yn eu golwg, a daethant i ddeall mai trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud.

17. Yn ystod y cyfnod hwn anfonodd pendefigion Jwda nifer o lythyrau at Tobeia, a daeth llythyrau oddi wrth Tobeia atynt hwythau;

18. oherwydd yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef am ei fod yn fab-yng-nghyfraith i Sechaneia fab Ara, a'i fab Jehohanan wedi priodi merch Mesulam fab Berecheia.

19. Byddent yn sôn wrthyf am ei ragoriaethau ac yn ailadrodd fy ngeiriau innau wrtho ef. Ysgrifennodd Tobeia hefyd lythyrau ataf i'm dychryn.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 6