Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 6:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yna sylweddolais nad Duw oedd wedi ei anfon, ond ei fod wedi proffwydo fel hyn yn ein herbyn am fod Tobeia a Sanbalat wedi ei lwgrwobrwyo.

13. Yr oedd wedi cael ei dalu i godi ofn arnaf a pheri imi bechu trwy wneud hyn; yna fe gaent esgus i roi enw drwg imi, a'm gwaradwyddo.

14. Fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat am iddynt wneud hyn, a hefyd Noadeia y broffwydes a'r proffwydi eraill oedd am fy nychryn.

15. Gorffennwyd y mur mewn deuddeg diwrnod a deugain, ar y pumed ar hugain o Elul.

16. Pan glywodd ein holl elynion, a phan welodd yr holl genhedloedd o'n hamgylch, yr oedd y peth yn rhyfeddol yn eu golwg, a daethant i ddeall mai trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud.

17. Yn ystod y cyfnod hwn anfonodd pendefigion Jwda nifer o lythyrau at Tobeia, a daeth llythyrau oddi wrth Tobeia atynt hwythau;

18. oherwydd yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef am ei fod yn fab-yng-nghyfraith i Sechaneia fab Ara, a'i fab Jehohanan wedi priodi merch Mesulam fab Berecheia.

19. Byddent yn sôn wrthyf am ei ragoriaethau ac yn ailadrodd fy ngeiriau innau wrtho ef. Ysgrifennodd Tobeia hefyd lythyrau ataf i'm dychryn.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 6