Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan glywodd Sanbalat a Tobeia a Gesem yr Arabiad a'r gweddill o'n gelynion fy mod wedi ailgodi'r mur ac nad oedd yr un bwlch ar ôl ynddo—er nad oeddwn y pryd hwnnw wedi gosod dorau ar y pyrth—

2. fe anfonodd Sanbalat a Gesem ataf a dweud, “Tyrd i'n cyfarfod yn un o'r pentrefi yn nyffryn Ono.” Ond eu bwriad oedd gwneud niwed imi.

3. Anfonais negeswyr atynt gyda'r ateb, “Y mae gennyf waith pwysig ar dro, felly ni allaf ddod i lawr. Pam y dylai'r gwaith gael ei atal tra wyf fi yn ei adael ac yn dod i lawr atoch chwi?”

4. Anfonasant ataf i'r un perwyl bedair gwaith, a phob tro rhoddais yr un ateb.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 6