Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 6:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan glywodd Sanbalat a Tobeia a Gesem yr Arabiad a'r gweddill o'n gelynion fy mod wedi ailgodi'r mur ac nad oedd yr un bwlch ar ôl ynddo—er nad oeddwn y pryd hwnnw wedi gosod dorau ar y pyrth—

2. fe anfonodd Sanbalat a Gesem ataf a dweud, “Tyrd i'n cyfarfod yn un o'r pentrefi yn nyffryn Ono.” Ond eu bwriad oedd gwneud niwed imi.

3. Anfonais negeswyr atynt gyda'r ateb, “Y mae gennyf waith pwysig ar dro, felly ni allaf ddod i lawr. Pam y dylai'r gwaith gael ei atal tra wyf fi yn ei adael ac yn dod i lawr atoch chwi?”

4. Anfonasant ataf i'r un perwyl bedair gwaith, a phob tro rhoddais yr un ateb.

5. Y pumed tro anfonodd Sanbalat ei was ei hun ataf gyda llythyr agored

6. yn cynnwys y neges hon: “Yn ôl Gasmu y mae si ymysg y cenhedloedd dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam yr wyt yn ailgodi'r mur. Dywedir hefyd dy fod ti dy hun am fod yn frenin arnynt,

7. a'th fod wedi penodi proffwydi i gyhoeddi yn Jerwsalem a dweud, ‘Y mae brenin yn Jwda.’ Bydd y brenin yn sicr o glywed am hyn; felly tyrd, a gad i ni ymgynghori â'n gilydd.”

8. Anfonais air yn ôl ato a dweud, “Nid yw'r hyn a ddywedi di yn wir; ti dy hun sydd wedi ei ddychmygu.”

9. Yr oeddent oll yn ceisio'n dychryn, gan dybio y byddem yn digalonni, ac na fyddai'r gwaith yn cael ei orffen. Ond yn awr cryfha fi!

10. Pan euthum i dŷ Semaia fab Delaia, fab Mehetabel, oedd wedi ei gaethiwo i'w gartref, dywedodd wrthyf,“Gad i ni gyfarfod yn nhŷ Dduw,y tu mewn i'r cysegr,a chau drysau'r deml,oherwydd y maent yn dod i'th ladd,yn dod i'th ladd liw nos.”

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 6