Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 5:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Pan glywais eu cwyn a'r hyn yr oeddent yn ei ddweud, yr oeddwn yn ddig iawn.

7. Yna, ar ôl ystyried y peth yn ofalus, ceryddais y pendefigion a'r swyddogion a dweud wrthynt, “Yr ydych yn mynnu llog gan eich cymrodyr.” Ceryddais hwy'n llym,

8. a dweud, “Yr ydym ni, yn ôl ein gallu, wedi prynu ein cyd-Iddewon a werthwyd i'r cenhedloedd, ond yr ydych chwi'n gwerthu eich brodyr, a ninnau'n gorfod eu prynu'n ôl.” Yr oeddent yn ddistaw heb air i'w ddweud.

9. Ac meddwn wrthynt, “Nid ydych yn ymddwyn yn iawn. Oni ddylech ofni ein Duw yn hytrach na gwaradwydd y cenhedloedd, ein gelynion?

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 5