Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 5:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yr ydym o'r un cnawd â'n tylwyth, ac y mae ein plant ni fel eu plant hwy; eto, yr ydym ni'n gorfod gwneud caethweision o'n meibion a'n merched. Y mae rhai o'n merched eisoes yn gaethion, ond ni allwn wneud dim, gan fod ein meysydd a'n gwinllannoedd ym meddiant eraill.”

6. Pan glywais eu cwyn a'r hyn yr oeddent yn ei ddweud, yr oeddwn yn ddig iawn.

7. Yna, ar ôl ystyried y peth yn ofalus, ceryddais y pendefigion a'r swyddogion a dweud wrthynt, “Yr ydych yn mynnu llog gan eich cymrodyr.” Ceryddais hwy'n llym,

8. a dweud, “Yr ydym ni, yn ôl ein gallu, wedi prynu ein cyd-Iddewon a werthwyd i'r cenhedloedd, ond yr ydych chwi'n gwerthu eich brodyr, a ninnau'n gorfod eu prynu'n ôl.” Yr oeddent yn ddistaw heb air i'w ddweud.

9. Ac meddwn wrthynt, “Nid ydych yn ymddwyn yn iawn. Oni ddylech ofni ein Duw yn hytrach na gwaradwydd y cenhedloedd, ein gelynion?

10. Yr wyf fi a'm brodyr a'm gweision yn rhoi arian ac ŷd ar fenthyg iddynt. Gadewch i ni roi terfyn ar y llogau hyn.

11. Rhowch yn ôl iddynt ar unwaith eu meysydd, eu gwinllannoedd, eu gerddi olewydd a'u tai; a hefyd y ganfed ran yr ydych wedi ei chymryd ganddynt yn llog mewn arian, ŷd, gwin ac olew.”

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 5