Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 5:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dechreuodd y bobl gyffredin a'u gwragedd gwyno'n enbyd yn erbyn eu cyd-Iddewon.

2. Yr oedd rhai yn dweud, “Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meibion a'n merched i gael ŷd er mwyn bwyta a byw.”

3. Yr oedd eraill yn dweud, “Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meysydd a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu ŷd yn ystod y newyn.”

4. Dywedai eraill, “Yr ydym wedi benthyca arian ar ein meysydd a'n gwinllannoedd i dalu treth y brenin.

5. Yr ydym o'r un cnawd â'n tylwyth, ac y mae ein plant ni fel eu plant hwy; eto, yr ydym ni'n gorfod gwneud caethweision o'n meibion a'n merched. Y mae rhai o'n merched eisoes yn gaethion, ond ni allwn wneud dim, gan fod ein meysydd a'n gwinllannoedd ym meddiant eraill.”

6. Pan glywais eu cwyn a'r hyn yr oeddent yn ei ddweud, yr oeddwn yn ddig iawn.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 5