1. Dechreuodd y bobl gyffredin a'u gwragedd gwyno'n enbyd yn erbyn eu cyd-Iddewon.
2. Yr oedd rhai yn dweud, “Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meibion a'n merched i gael ŷd er mwyn bwyta a byw.”
3. Yr oedd eraill yn dweud, “Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meysydd a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu ŷd yn ystod y newyn.”
4. Dywedai eraill, “Yr ydym wedi benthyca arian ar ein meysydd a'n gwinllannoedd i dalu treth y brenin.
5. Yr ydym o'r un cnawd â'n tylwyth, ac y mae ein plant ni fel eu plant hwy; eto, yr ydym ni'n gorfod gwneud caethweision o'n meibion a'n merched. Y mae rhai o'n merched eisoes yn gaethion, ond ni allwn wneud dim, gan fod ein meysydd a'n gwinllannoedd ym meddiant eraill.”