Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 13:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yr oedd ef yn perthyn i Tobeia, ac wedi rhoi iddo ystafell fawr lle gynt y cedwid y bwydoffrwm a'r thus, y llestri a degwm yr ŷd, y gwin a'r olew oedd yn ddyledus i'r Lefiaid ac i'r cantorion a'r porthorion, a'r cyfraniad ar gyfer yr offeiriaid.

6. Yr adeg honno nid oeddwn i yn Jerwsalem, oherwydd yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artaxerxes brenin Babilon yr oeddwn wedi mynd at y brenin. Ychydig yn ddiweddarach gofynnais ei ganiatâd i ddychwelyd.

7. Pan gyrhaeddais Jerwsalem gwelais y camwri a wnaeth Eliasib ynglŷn â Tobeia trwy roi ystafell iddo yng nghynteddoedd tŷ Dduw.

8. Cythruddodd hyn fi'n ddirfawr, a theflais ddodrefn Tobeia i gyd allan o'r ystafell;

9. a gorchmynnais iddynt buro'r ystafelloedd, a rhoddais lestri tŷ Dduw a'r bwydoffrwm a'r thus yn ôl yno.

10. Darganfûm hefyd nad oedd y Lefiaid wedi derbyn eu cyfrannau, a'u bod hwy a'r cantorion oedd yn gyfrifol am y gwasanaethau wedi mynd i ffwrdd i'w ffermydd.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 13