Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 13:16-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Daeth y Tyriaid oedd yn byw yn y ddinas â physgod a phob math o farsiandïaeth i'w gwerthu ar y Saboth i bobl Jwda yn Jerwsalem.

17. Felly ceryddais bendefigion Jwda a dweud wrthynt, “Beth yw'r drwg hwn yr ydych yn ei wneud, yn halogi'r dydd Saboth?

18. Onid dyma a wnaeth eich hynafiaid fel y daeth ein Duw â'r holl ddrwg hwn arnom ni ac ar y ddinas hon? Yr ydych yn dod â mwy eto o lid ar Israel trwy halogi'r Saboth.”

19. Yna, cyn dechrau'r Saboth, fel yr oedd yn nosi dros byrth Jerwsalem, gorchmynnais gau'r drysau, ac nad oedd neb i'w hagor cyn diwedd y Saboth. A gosodais rai o'm llanciau wrth y pyrth fel na châi dim ei gario i mewn ar y dydd Saboth.

20. Unwaith neu ddwy gwersyllodd y masnachwyr a gwerthwyr pob math o nwyddau y tu allan i Jerwsalem,

21. ond rhybuddiais hwy a dweud, “Pam yr ydych yn gwersyllu yn ymyl y mur? Os gwnewch hyn eto fe'ch cosbaf chwi.” O'r dydd hwnnw ymlaen ni ddaethant ar y Saboth.

22. A gorchmynnais i'r Lefiaid eu puro eu hunain a dod i wylio'r pyrth, er mwyn cadw'r dydd Saboth yn sanctaidd. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn dy drugaredd fawr.

23. Yn y dyddiau hynny hefyd gwelais fod rhai Iddewon wedi priodi merched o Asdod, Ammon a Moab.

24. Yr oedd hanner eu plant yn siarad iaith Asdod, heb fedru siarad iaith yr Iddewon, a'r lleill yn siarad tafodiaith gymysg.

25. Ceryddais hwy a'u melltithio, a tharo rhai ohonynt a thynnu eu gwallt; gwneuthum iddynt gymryd llw yn enw Duw i beidio â rhoi eu merched i feibion yr estron, na chymryd eu merched hwy i'w meibion nac iddynt eu hunain.

26. “Onid o achos merched fel hyn,” meddwn, “y pechodd Solomon brenin Israel? Ni fu brenin tebyg iddo ymysg yr holl genhedloedd, yn un yr oedd Duw yn ei garu, ac wedi ei wneud ganddo yn frenin ar Israel gyfan; eto fe wnaeth merched estron iddo yntau bechu.

27. A ddylem ni felly wrando arnoch chwi i wneud y drwg mawr hwn, a throseddu yn erbyn ein Duw trwy briodi merched estron?”

28. Yr oedd un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, yn fab-yng-nghyfraith i Sanbalat yr Horoniad; am hynny gyrrais ef o'm gŵydd.

29. Cofia hwy, O fy Nuw, am iddynt halogi'r offeiriadaeth a chyfamod yr offeiriaid a'r Lefiaid.

30. Yna glanheais hwy oddi wrth bopeth estron, a threfnais ddyletswyddau i'r offeiriaid a'r Lefiaid, pob un yn ei swydd.

31. Gwneuthum ddarpariaeth hefyd ar gyfer coed yr offrwm ar wyliau penodedig, ac ar gyfer y blaenffrwyth. Cofia fi, fy Nuw, er daioni.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 13