14. Cofia fi, fy Nuw, am hyn, a phaid â dileu'r daioni a wneuthum i dŷ fy Nuw a'i wasanaethau.
15. Yn y dyddiau hynny gwelais ddynion yn Jwda yn sathru gwinwryf ar y Saboth, ac yn pentyrru grawn, ac yn llwytho asynnod â gwin, grawnwin, ffigys, a phob math o feichiau, ac yn eu cario i Jerwsalem ar y dydd Saboth. Rhybuddiais hwy am werthu bwyd ar y dydd hwn.
16. Daeth y Tyriaid oedd yn byw yn y ddinas â physgod a phob math o farsiandïaeth i'w gwerthu ar y Saboth i bobl Jwda yn Jerwsalem.
17. Felly ceryddais bendefigion Jwda a dweud wrthynt, “Beth yw'r drwg hwn yr ydych yn ei wneud, yn halogi'r dydd Saboth?
18. Onid dyma a wnaeth eich hynafiaid fel y daeth ein Duw â'r holl ddrwg hwn arnom ni ac ar y ddinas hon? Yr ydych yn dod â mwy eto o lid ar Israel trwy halogi'r Saboth.”