Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 12:28-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Ymgasglodd y cantorion o'r ardaloedd o amgylch Jerwsalem ac o bentrefi'r Netoffathiaid,

29. a hefyd o Beth-gilgal a rhanbarthau Geba ac Asmafeth; oherwydd yr oedd y cantorion wedi codi pentrefi iddynt eu hunain o amgylch Jerwsalem.

30. Yna purodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain, y bobl, y pyrth a'r mur.

31. A gwneuthum i arweinwyr Jwda esgyn i ben y mur, a threfnais i ddau gôr mawr roi diolch. Aeth un i'r dde ar hyd y mur at Borth y Dom,

32. ac ar ei ôl aeth Hosaia a hanner arweinwyr Jwda,

33. ac Asareia, Esra, Mesulam,

34. Jwda, Benjamin, Semaia, a Jeremeia;

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 12