Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 12:13-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. o Esra, Mesulam; o Amareia, Jehohanan;

14. o Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff;

15. o Harim, Adna; o Meraioth, Helcai;

16. o Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam;

17. o Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai;

18. o Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan;

19. o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi;

20. o Salai, Calai; o Amoc, Eber;

21. o Hilceia, Hasabeia; o Jedaia, Nethaneel.

22. Yn nyddiau Eliasib yr oedd y Lefiaid, sef Joiada, Johanan a Jadua, a'r offeiriaid wedi eu cofrestru fel pennau-teuluoedd hyd at deyrnasiad Dareius y Persiad.

23. Yr oedd pennau-teuluoedd y Lefiaid wedi eu cofrestru yn llyfr y Cronicl hyd at amser Johanan fab Eliasib.

24. Arweinwyr y Lefiaid oedd: Hasabeia, Serebeia, Jesua fab Cadmiel a'u brodyr, oedd yn cymryd eu tro i foliannu a thalu diolch yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, ac i gadw cylch y gwasanaethau.

25. Mataneia, Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, ac Accub oedd y porthorion i wylio'r ystordai wrth y pyrth.

26. Yr oedd y rhain yn nyddiau Joiacim fab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.

27. Pan ddaeth yr amser i gysegru mur Jerwsalem aethant i chwilio am y Lefiaid ymhle bynnag yr oeddent yn byw, a dod â hwy i Jerwsalem i ddathlu'r cysegru â llawenydd, mewn diolchgarwch a chân, gyda symbalau, nablau, a thelynau.

28. Ymgasglodd y cantorion o'r ardaloedd o amgylch Jerwsalem ac o bentrefi'r Netoffathiaid,

29. a hefyd o Beth-gilgal a rhanbarthau Geba ac Asmafeth; oherwydd yr oedd y cantorion wedi codi pentrefi iddynt eu hunain o amgylch Jerwsalem.

30. Yna purodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain, y bobl, y pyrth a'r mur.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 12