Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 3:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Wele, gwragedd yw dy filwyr yn dy ganol,y mae pyrth dy wlad yn agored i'th elynion,a thân wedi ysu eu barrau.

14. Tyn ddŵr ar gyfer gwarchae,cryfha dy amddiffynfeydd;dos at y clai,sathra'r pridd,moldia briddfeini.

15. Er hynny, cei dy ddifa gan dân,fe'th dorrir ymaith â'r cleddyf,ac fe'th ysir fel gan locust.Lluosoga fel y locust,lluosoga fel y sbonciwr,haid sy'n ymledu ac yn hedfan ymaith.

16. Y mae dy farsiandïwyryn lluosocach na sêr y nefoedd,

17. dy dywysogion fel locustiaid,dy gapteiniaid fel cwmwl o sboncwyr—ymsefydlant ar y muriau ar ddiwrnod oer,ond pan gyfyd yr haul ehedant ymaith,ac ni ŵyr neb ble maent.

18. Cysgu y mae dy fugeiliaid, O frenin Asyria,a'th arweinwyr yn gorffwyso;gwasgarwyd dy luoedd hyd y mynyddoedd,heb neb i'w casglu.

19. Ni ellir lliniaru dy glwyf;y mae dy archoll yn ddwfn.Bydd pob un a glyw'r newydd amdanatyn curo'i ddwylo o'th blegid.A oes rhywun nad yw wedi dioddef oddi wrth dy ddrygioni diddiwedd?

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 3