Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 3:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwae'r ddinas waedlyd,sy'n dwyll i gyd,yn llawn anrhaitha heb derfyn ar ysbail!

2. Clec y chwip, trwst olwynion,meirch yn carlamu a cherbydau'n ysgytian,

3. marchogion yn ymosod,cleddyfau'n disgleirio, gwaywffyn yn fflachio.Llu o glwyfedigion,pentyrrau o gyrff,meirwon dirifedi—baglant dros y cyrff.

4. Y cyfan oherwydd puteindra mynych y butain,y deg ei phryd, meistres swynion,a dwyllodd genhedloedd â'i phuteindra,a phobloedd â'i swynion.

5. “Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Codaf odre dy wisg at dy wyneb,a dangosaf dy noethni i'r cenhedloedd,a'th warth i'r teyrnasoedd.

6. Taflaf fudreddi drosot,gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe.

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 3