Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 2:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ysbeiliwch yr arian! Ysbeiliwch yr aur!Nid oes terfyn ar y trysor,nac ar y cyfoeth o bethau dymunol.

10. Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi,pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian,y lwynau'n crynu,ac wyneb pawb yn gwelwi!

11. Ple mae ffau'r llew ac ogof y llewod ifainc,cynefin y llew a'r llewes,lle triga'r cenawon heb eu tarfu?

12. Darniodd y llew ddigon i'w genawon,a lladd ar gyfer ei lewesau;llanwodd ei ogofeydd ag ysglyfaeth,a'i loches â'i raib.

13. “Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Llosgaf dy ffau mewn mwg,ac ysa'r cleddyf dy genawon;torraf ymaith dy ysbail o'r tir,ac ni chlywir mwyach sôn am dy weithredoedd.”

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 2