Hen Destament

Testament Newydd

Nahum 1:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Oracl am Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum o Elcos.

2. Duw eiddigeddus ac un sy'n dial yw'r ARGLWYDD;y mae'r ARGLWYDD yn dial ac yn llawn llid;y mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei wrthwynebwyr,ac yn dal dig at ei elynion.

3. Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ond yn fawr o nerth,ac nid yw'n gadael yr euog yn ddi-gosb.Y mae ei ffordd yn y corwynt a'r dymestl,a llwch ei draed yw'r cymylau.

4. Y mae'n ceryddu'r môr ac yn ei sychu,ac yn gwneud pob afon yn hesb;gwywa Basan a Charmel,a derfydd gwyrddlesni Lebanon.

5. Cryna'r mynyddoedd o'i flaen,a thodda'r bryniau;difrodir y ddaear o'i flaen,y byd a phopeth sy'n byw ynddo.

6. Pwy a saif o flaen ei lid?Pwy a ddeil gynddaredd ei ddig?Tywelltir ei lid fel tân,a dryllir y creigiau o'i flaen.

Darllenwch bennod gyflawn Nahum 1