Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Yn awr, dos i mewn i'th gaer, ti ferch gaerog;y mae gwarchae wedi ei osod yn ein herbyn;trewir barnwr Israel ar ei foch â ffon.”

Addo Llywodraethwr o Fethlehem

2. Ond ti, Bethlehem Effrata,sy'n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda,ohonot ti y daw allan i miun i fod yn llywodraethwr yn Israel,a'i darddiad yn y gorffennol,mewn dyddiau gynt.

3. Felly fe'u gedy hyd amser esgor yr un feichiog,ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israelat eu tylwyth.

4. Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD,ac ym mawredd enw'r ARGLWYDD ei Dduw.A byddant yn ddiogel,oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau'r ddaear;

5. ac yna bydd heddwch.Pan ddaw Asyria i'n gwlad,a cherdded hyd ein tir,codwn yn ei erbyn saith o fugeiliaidac wyth o arweinwyr pobl.

Gwaredigaeth a Chosb

6. A bugeiliant Asyria â'r cleddyf,a thir Nimrod â'r cleddyf noeth;fe'n gwaredant oddi wrth Asyriapan ddaw i'n gwlada sarnu'n terfynau.

7. A bydd gweddill Jacob yng nghanol pobloedd lawer,fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD,fel cawodydd ar laswellt,nad ydynt yn disgwyl wrth ddyn,nac yn aros am feibion dynion.

8. A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd,ac yng nghanol pobloedd lawer,fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig,fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid,sydd, wrth fynd heibio, yn mathruac yn malurio, heb neb i waredu.

9. Bydd dy law wedi ei chodi yn erbyn dy wrthwynebwyr,a thorrir ymaith dy holl elynion.

10. “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“distrywiaf dy feirch o'ch plith,a dinistriaf dy gerbydau.

11. Distrywiaf ddinasoedd dy wlad,a mathraf dy holl geyrydd.

12. Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael,ac ni fydd gennyt ddewiniaid.

13. Distrywiaf dy gerfddelwaua'th golofnau o'ch mysg,a mwyach nid addoli waith dy ddwylo dy hun.

14. Diwreiddiaf y prennau Asera yn eich plith,a dinistriaf dy ddinasoedd.

15. Mewn llid a digofaint fe ddialafar yr holl genhedloedd na fuont yn ufudd.”