Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Yr ARGLWYDD yn Teyrnasu mewn Heddwch

1. Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDDwedi ei osod ar ben y mynyddoeddac yn uwch na'r bryniau.Dylifa'r bobloedd ato,

2. a daw cenhedloedd lawer, a dweud,“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,i deml Duw Jacob,er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrddac i ninnau rodio yn ei lwybrau.”Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

3. Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd,ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell;byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau,a'u gwaywffyn yn grymanau.Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,ac ni ddysgant ryfel mwyach;

4. a bydd pob un yn eistedd dan ei winwyddena than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn.Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd.

5. Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw,ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.

Adferiad Israel

6. “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“fe gasglaf y cloff,a chynnull y rhai a wasgarwyda'r rhai a gosbais;

7. a gwnaf weddill o'r cloff,a chenedl gref o'r gwasgaredig,a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seionyn awr a hyd byth.

8. A thithau, tŵr y ddiadell, mynydd merch Seion,i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu,y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem.”

Ymryson Arall â'r Gau Broffwydi

9. “Pam yn awr yr wyt yn llefain yn uchel?Onid oes gennyt frenin?A yw dy gynghorwyr wedi darfod,nes bod poenau, fel gwewyr gwraig yn esgor, wedi cydio ynot?”

10. “Gwinga a gwaedda, ferch Seion,fel gwraig yn esgor,oherwydd yn awr byddi'n mynd o'r ddinasac yn byw yn y maes agored;byddi'n mynd i Fabilon.Yno fe'th waredir;yno bydd yr ARGLWYDD yn dy achubo law d'elynion.”

11. “Yn awr y mae llawer o genhedloeddwedi ymgasglu yn dy erbyn,ac yn dweud, ‘Haloger hi,a chaed ein llygaid weld eu dymuniad ar Seion.’

12. Ond nid ydynt hwy'n gwybod meddyliau'r ARGLWYDD,nac yn deall ei fwriad,oherwydd y mae ef wedi eu casglu fel ysgubau i'r llawr dyrnu.

13. Cod i ddyrnu, ferch Seion,oherwydd gwnaf dy gorn o haearna'th garnau o bres,ac fe fethri bobloedd lawer;yn ddiofryd i'r ARGLWYDD y gwneir eu helw,a'u cyfoeth i Arglwydd yr holl ddaear.”