Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7

Hen Destament

Testament Newydd

Micha 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna dywedais,“Clywch, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel!Oni ddylech chwi wybod beth sy'n iawn?

2. Yr ydych yn casáu daioni ac yn caru drygioni,yn rhwygo'u croen oddi ar fy mhobl,a'u cnawd oddi ar eu hesgyrn;

3. yr ydych yn bwyta'u cnawd,yn blingo'u croen oddi amdanynt,yn dryllio'u hesgyrn,yn eu malu fel cnawd i badellac fel cig i grochan.

4. Yna fe waeddant ar yr ARGLWYDD,ond ni fydd yn eu hateb;bydd yn cuddio'i wyneb oddi wrthynt yr amser hwnnw,am fod eu gweithredoedd mor ddrygionus.”

5. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydisy'n arwain fy mhobl ar gyfeiliorn,y rhai os cânt rywbeth i'w fwytasy'n cyhoeddi heddwch,ond pan na rydd neb ddim iddyntsy'n cyhoeddi rhyfel yn ei erbyn:

6. “Am hyn bydd yn nos heb weledigaeth arnoch,ac yn dywyllwch heb ddim dewiniaeth;bydd yr haul yn machlud ar y proffwydi,a'r dydd yn tywyllu o'u cwmpas.”

7. Bydd y gweledyddion mewn gwartha'r dewiniaid mewn cywilydd;byddant i gyd yn gorchuddio'u genau,am nad oes ateb oddi wrth Dduw.

8. Ond amdanaf fi, rwy'n llawn grymac ysbryd yr ARGLWYDD, a chyfiawnder a nerth,i gyhoeddi ei drosedd i Jacob,a'i bechod i Israel.

9. Clywch hyn, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel,chwi sy'n casáu cyfiawnderac yn gwyrdroi pob uniondeb,

10. yn adeiladu Seion trwy dywallt gwaeda Jerwsalem trwy dwyll.

11. Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn ôl y tâl,ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn ôl y wobr,ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn ôl yr arian;ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud,“Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg?Ni ddaw drwg arnom.”

12. Am hynny, o'ch achos chwibydd Seion yn faes wedi ei aredig,a Jerwsalem yn garneddau,a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.