Hen Destament

Testament Newydd

Malachi 1:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. “Y mae mab yn anrhydeddu ei dad, a gwas ei feistr. Os wyf fi'n dad, ple mae f'anrhydedd? Os wyf yn feistr, ple mae fy mharch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd wrthych chwi'r offeiriaid, sy'n dirmygu ei enw. A dywedwch, “Sut y bu inni ddirmygu dy enw?”

7. “Wrth offrymu bwyd halogedig ar fy allor.” A dywedwch, “Sut y bu inni ei halogi?” “Wrth feddwl y gellir dirmygu bwrdd yr ARGLWYDD,

8. a thybio, pan fyddwch yn offrymu anifeiliaid dall yn aberth, nad yw hynny'n ddrwg, a phan fyddwch yn offrymu rhai cloff neu glaf, nad yw hynny'n ddrwg. Pe dygech hyn i lywodraethwr y wlad, a fyddai ef yn fodlon ac yn dangos ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

9. “Yn awr, ceisiwch ffafr Duw, er mwyn iddo drugarhau wrthym; a'r fath rodd gennych, a ddengys ef ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Malachi 1