Hen Destament

Testament Newydd

Llythyr Jeremeia 1:63-68 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

63. Felly hefyd y tân, pan fydd Duw'n ei anfon i ddifa mynyddoedd a choed, bydd yntau'n gwneud yr hyn a orchmynnwyd. Ond nid yw'r delwau i'w cymharu â'r rhain o ran eu gwedd na'u grym.

64. Ni ellir felly eu cyfrif na'u galw yn dduwiau, gan na allant roi barn mewn llys na gwneud lles i neb.

65. Gwybyddwch, felly, nad duwiau mohonynt, a pheidiwch â'u hofni.

66. Ni allant fyth felltithio na bendithio brenhinoedd.

67. Ni allant ddangos arwyddion yn y nefoedd i'r cenhedloedd, gan nad ydynt yn goleuo fel yr haul nac yn llewyrchu fel y lloer.

68. Y mae'r anifeiliaid gwyllt yn rhagori arnynt, gan eu bod yn medru ffoi a'u diogelu eu hunain mewn lloches.

Darllenwch bennod gyflawn Llythyr Jeremeia 1