Hen Destament

Testament Newydd

Llythyr Jeremeia 1:47-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

47. Pa fodd, felly, y gellir disgwyl i'r pethau a luniwyd ganddynt fod yn dduwiau? Gadawsant i'w disgynyddion gelwydd a gwaradwydd.

48. Pan ddaw rhyfel a drygau ar eu gwarthaf, y mae'r offeiriaid yn ymgynghori am le i ymguddio gyda'u duwiau.

49. Pa fodd nad oes ganddynt synnwyr i weld nad duwiau yw'r rhai sydd heb allu i'w hachub eu hunain rhag rhyfel a drygau?

50. Gan mai pethau pren ydynt, wedi eu gorchuddio ag aur ac arian, gwybyddir wedi hynny mai ffug ydynt.

Darllenwch bennod gyflawn Llythyr Jeremeia 1