Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 9:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar yr wythfed dydd galwodd Moses am Aaron a'i feibion a henuriaid Israel.

2. A dywedodd wrth Aaron, “Cymer fustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn ddi-nam, a chyflwyna hwy o flaen yr ARGLWYDD.

3. Yna dywed wrth bobl Israel, ‘Cymerwch fwch gafr yn aberth dros bechod, a llo ac oen yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn flwydd oed ac yn ddi-nam,

4. a hefyd fustach a hwrdd yn heddoffrwm i'w haberthu o flaen yr ARGLWYDD, a bwydoffrwm wedi ei gymysgu ag olew; oherwydd heddiw bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos i chwi.’ ”

5. Dygasant y pethau a orchmynnodd Moses o flaen pabell y cyfarfod, a nesaodd yr holl gynulleidfa a sefyll gerbron yr ARGLWYDD.

6. Yna dywedodd Moses, “Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ichwi ei wneud er mwyn i ogoniant yr ARGLWYDD ymddangos ichwi.”

7. Dywedodd Moses wrth Aaron, “Nesâ at yr allor ac offryma dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun a thros y bobl; abertha offrwm y bobl a gwna gymod drostynt, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.”

8. Felly daeth Aaron at yr allor a lladd llo yn aberth dros bechod ar ei ran ei hun.

9. Yna daeth ei feibion â'r gwaed ato, a throchodd yntau ei fys yn y gwaed a'i roi ar gyrn yr allor; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor.

10. Llosgodd ar yr allor y braster, yr arennau a gorchudd yr iau o'r aberth dros bechod, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses;

11. llosgodd yn y tân y cnawd a'r croen y tu allan i'r gwersyll.

12. Yna lladdodd Aaron y poethoffrwm; daeth ei feibion â'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 9