Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 4:8-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Y mae i dynnu'r holl fraster oddi ar fustach yr aberth dros bechod, sef y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,

9. y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau,

10. yn union fel y tynnir ef ymaith oddi ar fustach yr heddoffrwm; a bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar allor y poethoffrwm.

11. Ond am groen y bustach a'i holl gnawd, ei ben, ei goesau, ei ymysgaroedd a'i weddillion,

12. sef y cyfan o'r bustach, bydd yn mynd â hwy y tu allan i'r gwersyll i le dihalog, lle gellir tywallt y lludw, ac yn eu llosgi ar dân coed, lle tywelltir y lludw.

13. “ ‘Os holl gymuned Israel fydd yn pechu'n anfwriadol, a hynny'n guddiedig o olwg y gynulleidfa, a hwythau'n gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, yna byddant yn euog.

14. Pan fyddant yn sylweddoli'r pechod a wnaethant, dylai'r gynulleidfa ddod â bustach ifanc yn aberth dros bechod a'i gyflwyno o flaen pabell y cyfarfod.

15. Y mae henuriaid y gymuned i osod eu dwylo ar ben y bustach a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD;

16. yna bydd yr offeiriad eneiniog yn mynd â pheth o waed y bustach i babell y cyfarfod,

17. yn trochi ei fys yn y gwaed ac yn ei daenellu saith gwaith gerbron yr ARGLWYDD, o flaen y llen.

18. Bydd hefyd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod, a bydd yn tywallt y gweddill ohono wrth droed allor y poethoffrwm sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

19. Bydd yn tynnu'r holl fraster oddi ar y bustach ac yn ei losgi ar yr allor;

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 4