Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 4:26-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Bydd yn llosgi holl fraster y bwch ar yr allor, fel y llosgodd fraster yr heddoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros bechod yr arweinydd, ac fe faddeuir iddo.

27. “ ‘Os un o'r bobl gyffredin fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, yna bydd yn euog.

28. Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod â rhodd o fyn gafr, benyw ddi-nam, yn aberth dros y pechod a wnaeth.

29. Y mae i osod ei law ar ben yr aberth dros bechod a'i ladd yn yr un lle â'r poethoffrwm.

30. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed yr allor.

31. Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, ac fe faddeuir iddo.

32. “ ‘Os bydd rhywun yn dod ag oen yn aberth dros bechod, dylai ddod ag oen benyw ddi-nam.

33. Y mae i osod ei law ar ben yr aberth dros bechod a'i ladd yn aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.

34. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed yr allor.

35. Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar oen yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar ben yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth, ac fe faddeuir iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 4