Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 4:21-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yna bydd yn mynd â'r bustach y tu allan i'r gwersyll, ac yn ei losgi fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma fydd yr aberth dros bechod y gynulleidfa.

22. “ ‘Os arweinydd fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD ei Dduw, yna bydd yn euog.

23. Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod â rhodd o fwch gafr ifanc di-nam.

24. Y mae i osod ei law ar ben y bwch a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; dyma fydd yr aberth dros bechod.

25. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed allor y poethoffrwm.

26. Bydd yn llosgi holl fraster y bwch ar yr allor, fel y llosgodd fraster yr heddoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros bechod yr arweinydd, ac fe faddeuir iddo.

27. “ ‘Os un o'r bobl gyffredin fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, yna bydd yn euog.

28. Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod â rhodd o fyn gafr, benyw ddi-nam, yn aberth dros y pechod a wnaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 4