Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 27:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Llefara wrth bobl Israel a dweud wrthynt, ‘Os bydd rhywun yn gwneud adduned arbennig i roi cyfwerth am berson i'r ARGLWYDD,

3. bydd gwerth gwryw rhwng ugain a thrigain mlwydd oed yn hanner can sicl o arian, yn ôl sicl y cysegr.

4. Os benyw ydyw, bydd ei gwerth yn ddeg sicl ar hugain.

5. Os rhywun rhwng pump ac ugain mlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn ugain sicl, a benyw yn ddeg sicl.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 27