Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 26:36-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Ac am y rhai ohonoch a adewir, gwnaf eu calonnau mor ofnus yng ngwledydd eu gelynion fel y bydd siffrwd deilen yn ysgwyd yn peri iddynt ffoi. Byddant yn ffoi fel pe o flaen cleddyf, ac yn cwympo heb neb yn eu hymlid.

37. Byddant yn syrthio ar draws ei gilydd, fel pe'n dianc rhag cleddyf, heb neb yn eu hymlid. Felly ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion.

38. Byddwch yn trengi o flaen y cenhedloedd, a bydd gwlad eich gelynion yn eich llyncu.

39. Bydd y rhai ohonoch a adewir yn darfod yng ngwledydd eu gelynion oherwydd eu troseddau; a hefyd byddant yn dihoeni oherwydd eu troseddau a throseddau eu hynafiaid.

40. “ ‘Ond os byddant yn cyffesu eu troseddau a throseddau eu hynafiaid, sef iddynt fod yn anffyddlon tuag ataf a'm gwrthwynebu,

41. a gwneud i minnau eu gwrthwynebu hwy a'u gyrru i wlad eu gelynion, yna, pan fydd eu calonnau dienwaededig wedi eu darostwng a hwythau wedi derbyn eu cosb,

42. fe gofiaf fy nghyfamod â Jacob ac ag Isaac ac ag Abraham, ac fe gofiaf am y tir.

43. Gadewir y tir ganddynt, ac fe fwynha ei Sabothau pan fydd yn ddiffeithwch hebddynt. Cosbir hwy am eu troseddau, oherwydd iddynt wrthod fy ngorchmynion a ffieiddio fy neddfau.

44. Er hynny, pan fyddant yng ngwlad eu gelynion, ni fyddaf yn eu gwrthod, nac yn eu ffieiddio i'w dinistrio'n llwyr, gan dorri fy nghyfamod â hwy. Myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.

45. Er eu mwyn hwy fe gofiaf fy nghyfamod â'u hynafiaid, a ddygais allan o wlad yr Aifft yng ngŵydd y cenhedloedd, er mwyn bod yn Dduw iddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

46. Dyma'r deddfau, y gorchmynion a'r cyfreithiau a osododd yr ARGLWYDD rhyngddo ef a phobl Israel ar Fynydd Sinai trwy law Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 26