Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 26:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. “ ‘Ond os na fyddwch yn gwrando arnaf nac yn gwneud yr holl orchmynion hyn,

15. ac os byddwch yn gwrthod fy neddfau ac yn ffieiddio fy marnedigaethau, heb gadw fy ngorchmynion, ond yn torri fy nghyfamod,

16. yna fe wnaf hyn â chwi: byddaf yn dwyn dychryn arnoch, darfodedigaeth a thwymyn a fydd yn gwneud i'ch llygaid ballu ac i'ch enaid ddihoeni. Byddwch yn hau'n ofer, gan mai eich gelynion fydd yn ei fwyta.

17. Trof fy wyneb i'ch erbyn, a chewch eich gorchfygu gan eich gelynion; bydd y rhai sy'n eich casáu yn rheoli drosoch, a byddwch yn ffoi heb neb yn eich ymlid.

18. “ ‘Os na fyddwch ar ôl hyn i gyd yn gwrando arnaf, byddaf yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau.

19. Fe ddrylliaf eich balchder ystyfnig, a gwnaf y nefoedd uwch eich pen fel haearn a'r ddaear danoch fel pres.

20. Byddwch yn treulio'ch nerth yn ofer, oherwydd ni fydd eich tir yn rhoi ei gnwd na choed y maes eu ffrwyth.

21. “ ‘Os byddwch yn parhau i'm gwrthwynebu, ac yn gwrthod gwrando arnaf, byddaf yn ychwanegu drygau arnoch seithwaith am eich pechodau.

22. Byddaf yn anfon bwystfilod gwyllt i'ch plith, a byddant yn eich amddifadu o'ch plant, yn difa eich anifeiliaid, ac yn eich gwneud mor fychan o rif fel y bydd eich ffyrdd yn anial.

23. “ ‘Os na fyddwch ar ôl hyn i gyd yn derbyn disgyblaeth, ond yn parhau i'm gwrthwynebu,

24. byddaf finnau yn eich gwrthwynebu chwithau, a byddaf fi fy hun yn eich taro seithwaith am eich pechodau.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 26