Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 23:35-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. Bydd y diwrnod cyntaf yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.

36. Am saith diwrnod yr ydych i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, ac ar yr wythfed diwrnod bydd gennych gynulliad sanctaidd, pan fyddwch yn cyflwyno aberth trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma'r cynulliad terfynol, ac nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.

37. “ ‘Dyma'r gwyliau i'r ARGLWYDD a gyhoeddwch yn gymanfaoedd sanctaidd i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, sef y poethoffrymau, y bwydoffrymau, yr aberthau a'r diodoffrymau ar gyfer pob diwrnod.

38. Y mae'r rhain yn ychwanegol at offrymau Sabothau'r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich holl addunedau a'ch holl offrymau gwirfodd a roddwch i'r ARGLWYDD.

39. “ ‘Felly, ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, ar ôl ichwi gasglu cynnyrch y tir, cynhaliwch ŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod; bydd y diwrnod cyntaf yn ddiwrnod gorffwys a'r wythfed diwrnod yn ddiwrnod gorffwys.

40. Ar y diwrnod cyntaf yr ydych i gymryd blaenffrwyth gorau'r coed, canghennau palmwydd, brigau deiliog a helyg yr afon, a llawenhau o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod.

41. Dathlwch yr ŵyl hon i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau, eich bod i'w dathlu yn y seithfed mis.

42. Yr ydych i fyw mewn pebyll am saith diwrnod; y mae holl frodorion Israel i fyw mewn pebyll,

43. er mwyn i'ch disgynyddion wybod imi wneud i bobl Israel fyw mewn pebyll pan ddeuthum â hwy allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”

44. Cyhoeddodd Moses holl wyliau'r ARGLWYDD i bobl Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 23