Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 22:18-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. “Dywed wrth Aaron a'i feibion ac wrth holl bobl Israel, ‘Os bydd un ohonoch, boed o dŷ Israel neu o'r estroniaid sydd yn Israel, yn cyflwyno rhodd yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, boed yn offrwm adduned neu'n offrwm gwirfodd,

19. dylai ddod â gwryw di-nam o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr, er mwyn bod yn dderbyniol ar eich rhan.

20. Peidiwch â chyflwyno unrhyw beth â nam arno, oherwydd ni fydd yn dderbyniol ar eich rhan.

21. Os bydd unrhyw un yn cyflwyno heddoffrwm i'r ARGLWYDD, i dalu adduned neu'n offrwm gwirfodd, boed o'r gyr neu o'r praidd, rhaid iddo fod yn berffaith a di-nam i fod yn dderbyniol.

22. Peidiwch â chyflwyno i'r ARGLWYDD ddim sy'n ddall, nac wedi ei archolli neu ei anafu, na dim â chornwyd, crach neu ddoluriau arno; peidiwch â gosod yr un o'r rhain ar yr allor yn offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD.

23. Gallwch ddod â bustach neu hwrdd sydd wedi ei hagru, neu sy'n anghyflawn, yn offrwm gwirfodd, ond nid yw'n dderbyniol yn offrwm adduned.

24. Nid ydych i'w offrymu i'r ARGLWYDD os bydd ei geilliau wedi eu briwo, eu gwasgu, eu rhwygo neu eu torri; nid ydych i wneud hyn yn eich gwlad,

25. ac nid ydych i gymryd gan estron unrhyw un o'r rhain i'w gyflwyno'n fwyd i'ch Duw; gan eu bod wedi eu hanffurfio ac arnynt nam, ni fyddant yn dderbyniol ar eich rhan.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 22