Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 22:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth Aaron a'i feibion am iddynt barchu'r offrymau sanctaidd y mae pobl Israel yn eu cysegru i mi, rhag iddynt halogi fy enw sanctaidd. Myfi yw'r ARGLWYDD.

3. “Dywed wrthynt, ‘Dros y cenedlaethau i ddod, os bydd unrhyw un o'ch disgynyddion, ac yntau'n aflan, yn dod at yr offrymau sanctaidd y mae pobl Israel yn eu cysegru i'r ARGLWYDD, rhaid ei dorri ymaith o'm gŵydd. Myfi yw'r ARGLWYDD.

4. “ ‘Os bydd gan un o ddisgynyddion Aaron haint neu ddiferlif, ni chaiff fwyta'r offrymau sanctaidd nes ei lanhau. Bydd hefyd yn aflan os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw beth sy'n aflan neu ag unrhyw un sy'n gollwng ei had,

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 22