Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 22:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth Aaron a'i feibion am iddynt barchu'r offrymau sanctaidd y mae pobl Israel yn eu cysegru i mi, rhag iddynt halogi fy enw sanctaidd. Myfi yw'r ARGLWYDD.

3. “Dywed wrthynt, ‘Dros y cenedlaethau i ddod, os bydd unrhyw un o'ch disgynyddion, ac yntau'n aflan, yn dod at yr offrymau sanctaidd y mae pobl Israel yn eu cysegru i'r ARGLWYDD, rhaid ei dorri ymaith o'm gŵydd. Myfi yw'r ARGLWYDD.

4. “ ‘Os bydd gan un o ddisgynyddion Aaron haint neu ddiferlif, ni chaiff fwyta'r offrymau sanctaidd nes ei lanhau. Bydd hefyd yn aflan os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw beth sy'n aflan neu ag unrhyw un sy'n gollwng ei had,

5. neu os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw ymlusgiad sy'n achosi aflendid, neu ag unrhyw berson sy'n achosi aflendid, beth bynnag fyddo'r aflendid.

6. Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r rhain yn aflan hyd yr hwyr, ac nid yw i fwyta o'r offrymau sanctaidd os na fydd wedi golchi ei gorff â dŵr.

7. Wedi i'r haul fachlud, bydd yn lân, ac yna caiff fwyta o'r offrymau sanctaidd, oherwydd dyna'i fwyd.

8. Nid yw i'w halogi ei hun trwy fwyta unrhyw beth sydd wedi marw neu wedi ei larpio gan anifail. Myfi yw'r ARGLWYDD.

9. “ ‘Y mae'r offeiriaid i gadw fy ngofynion rhag iddynt bechu, a marw am eu halogi. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.

10. “ ‘Nid yw neb estron i fwyta'r offrymau sanctaidd, neb sy'n westai neu'n was cyflog i offeiriad.

11. Ond os bydd offeiriad yn prynu caethwas am arian, neu os bydd caethwas wedi ei eni yn ei dŷ, caiff y rheini fwyta'i fwyd.

12. Os bydd merch i offeiriad yn priodi unrhyw un heblaw offeiriad, ni chaiff hi fwyta dim o'r offrymau sanctaidd.

13. Ond os bydd merch i offeiriad yn weddw neu'n cael ei hysgaru, a hithau heb blant ac yn dychwelyd i fyw yn nhŷ ei thad fel pan oedd yn ifanc, yna caiff hi fwyta o fwyd ei thad. Nid yw neb arall i fwyta o'r bwyd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 22