Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 21:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yr wyt i'w hystyried yn sanctaidd, oherwydd eu bod yn cyflwyno bwyd dy Dduw; byddant yn sanctaidd i ti, oherwydd sanctaidd ydwyf fi, yr ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio.

9. Os bydd merch i offeiriad yn ei halogi ei hun trwy fynd yn butain, y mae'n halogi ei thad; rhaid ei llosgi yn y tân.

10. “ ‘Am yr archoffeiriad, yr un o blith ei frodyr y tywalltwyd olew'r eneinio ar ei ben ac a ordeiniwyd i wisgo'r dillad, nid yw ef i noethi ei ben na rhwygo'i ddillad.

11. Nid yw i fynd i mewn at gorff marw, na'i halogi ei hun hyd yn oed er mwyn ei dad na'i fam.

12. Nid yw i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo halogi cysegr ei Dduw, oherwydd fe'i cysegrwyd ag olew eneinio ei Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

13. Y mae i briodi gwyryf yn wraig.

14. Nid yw i gymryd gweddw, un wedi ei hysgaru, nac un wedi ei halogi trwy buteindra, ond y mae i gymryd yn wraig wyryf o blith ei dylwyth,

15. rhag iddo halogi ei had ymysg ei bobl. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n ei sancteiddio.’ ”

16. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

17. “Dywed wrth Aaron, ‘Dros y cenedlaethau i ddod nid oes yr un o'th ddisgynyddion sydd â nam arno i ddod a chyflwyno bwyd ei Dduw.

18. Nid oes neb ag unrhyw nam arno i ddynesu, boed yn ddall, yn gloff, wedi ei anffurfio neu ei hagru,

19. yn ddyn gydag anaf ar ei droed neu ei law,

20. yn wargam neu'n gorrach, gyda nam ar ei lygad, crach, doluriau neu geilliau briwedig.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 21