Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 21:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Y mae i briodi gwyryf yn wraig.

14. Nid yw i gymryd gweddw, un wedi ei hysgaru, nac un wedi ei halogi trwy buteindra, ond y mae i gymryd yn wraig wyryf o blith ei dylwyth,

15. rhag iddo halogi ei had ymysg ei bobl. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n ei sancteiddio.’ ”

16. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

17. “Dywed wrth Aaron, ‘Dros y cenedlaethau i ddod nid oes yr un o'th ddisgynyddion sydd â nam arno i ddod a chyflwyno bwyd ei Dduw.

18. Nid oes neb ag unrhyw nam arno i ddynesu, boed yn ddall, yn gloff, wedi ei anffurfio neu ei hagru,

19. yn ddyn gydag anaf ar ei droed neu ei law,

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 21