Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 19:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Os bwyteir rhywfaint ohono ar y trydydd dydd, y mae'n amhur ac ni fydd yn dderbyniol.

8. Y mae'r sawl sy'n ei fwyta yn gyfrifol am ei drosedd; oherwydd iddo halogi'r hyn sy'n sanctaidd i'r ARGLWYDD, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.

9. “ ‘Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, nid wyt i fedi at ymylon y maes na chasglu lloffion dy gynhaeaf.

10. Nid wyt i ddinoethi dy winllan yn llwyr na chasglu'r grawnwin a syrthiodd; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw.

11. “ ‘Nid ydych i ladrata, na dweud celwydd, na thwyllo eich gilydd.

12. Nid ydych i dyngu'n dwyllodrus yn fy enw, a halogi enw eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

13. “ ‘Nid wyt i wneud cam â'th gymydog na dwyn oddi arno. Nid wyt i ddal yn ôl hyd y bore gyflog dy weithiwr.

14. Nid wyt i felltithio'r byddar na rhoi rhwystr ar ffordd y dall; ond ofna dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

15. “ ‘Nid wyt i wyro barn, na bod yn bleidiol tuag at y tlawd na dangos ffafriaeth at y mawr, ond yr wyt i farnu dy gymydog yn deg.

16. Nid wyt i fynd o amgylch yn enllibio ymysg dy bobl na pheryglu bywyd dy gymydog. Myfi yw'r ARGLWYDD.

17. “ ‘Nid wyt i gasáu dy frawd a'th chwaer yn dy galon, ond yr wyt i geryddu dy gymydog rhag iti fod yn gyfrifol am ei drosedd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 19