Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 19:24-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yn y bedwaredd flwyddyn bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd, yn offrwm mawl i'r ARGLWYDD.

25. Ond yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'i ffrwyth, er mwyn iddi ffrwythloni rhagor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

26. “ ‘Nid ydych i fwyta dim gyda gwaed ynddo. Nid ydych i arfer dewiniaeth na swyngyfaredd.

27. Nid ydych i dorri'r gwallt ar ochr eich pennau, na thorri ymylon eich barf.

28. Nid ydych i wneud toriadau i'ch cnawd er mwyn y meirw, nac i ysgythru nodau arnoch eich hunain. Myfi yw'r ARGLWYDD.

29. “ ‘Paid â halogi dy ferch trwy beri iddi buteinio, rhag i'r wlad buteinio a chael ei llenwi ag anlladrwydd.

30. “ ‘Yr ydych i gadw fy Sabothau a pharchu fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD.

31. “ ‘Peidiwch â throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

32. “ ‘Yr wyt i godi i'r oedrannus a pharchu'r hen, ac fe ofni dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

33. “ ‘Pan fydd estron yn byw gyda thi yn dy wlad, nid wyt i'w gam-drin.

34. Y mae'r estron sy'n byw gyda thi i'w ystyried gennyt fel brodor o'ch plith; yr wyt i'w garu fel ti dy hun, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

35. “ ‘Nid ydych i dwyllo wrth fesur, boed hyd, pwysau neu nifer.

36. Yr ydych i ddefnyddio cloriannau cywir, pwysau cywir, effa gywir a hin gywir. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch dygodd allan o wlad yr Aifft.

37. “ ‘Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 19