27. ac â'i fys de yn taenellu peth o'r olew o gledr ei law chwith seithwaith o flaen yr ARGLWYDD.
28. Bydd yn rhoi peth o'r olew yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, sef yn yr un lle â gwaed yr offrwm dros gamwedd.
29. Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, i wneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.
30. Yna bydd yn offrymu naill ai'r turturod neu'r cywion colomennod, fel y gall ei fforddio,
31. y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ynghyd â'r bwydoffrwm; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros yr un a lanheir.”
32. Dyma'r gyfraith ynglŷn â'r sawl sydd â chlefyd heintus arno ac na all fforddio'r offrymau ar gyfer ei lanhau.
33. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,
34. “Pan ddewch i mewn i wlad Canaan, a roddaf yn eiddo ichwi, a minnau'n rhoi malltod heintus mewn tŷ yn y wlad honno,
35. dylai perchennog y tŷ fynd at yr offeiriad a dweud wrtho fod rhywbeth tebyg i falltod wedi ymddangos yn y tŷ.
36. Bydd yr offeiriad yn gorchymyn gwagio'r tŷ cyn iddo ef fynd i mewn i archwilio'r malltod, rhag i bopeth sydd yn y tŷ gael ei gyhoeddi'n aflan; wedyn bydd yr offeiriad yn mynd i mewn i archwilio'r tŷ.
37. Bydd yn archwilio'r malltod ym muriau'r tŷ, ac os caiff agennau gwyrddion neu gochion sy'n ymddangos yn ddyfnach nag wyneb y mur,