Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 13:9-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. “Pan fydd gan unrhyw un ddolur heintus, dylid dod ag ef at yr offeiriad.

10. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd chwydd gwyn yn y croen a hwnnw wedi troi'r blew yn wyn, ac os bydd cig noeth yn y chwydd,

11. y mae'n hen ddolur yn y croen, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; ond ni fydd yn ei gadw o'r neilltu, gan ei fod eisoes yn aflan.

12. Os bydd y dolur yn torri allan dros y croen, a chyn belled ag y gwêl yr offeiriad yn gorchuddio'r claf o'i ben i'w draed,

13. bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi gorchuddio'i holl gnawd, bydd yn ei gyhoeddi'n lân; oherwydd i'r cyfan ohono droi'n wyn, bydd yn lân.

14. Ond pa bryd bynnag yr ymddengys cig noeth arno, bydd yn aflan.

15. Pan fydd yr offeiriad yn gweld cig noeth, bydd yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae cig noeth yn aflan, gan ei fod yn ddolur heintus.

16. Os bydd cig noeth yn newid ac yn troi'n wyn, dylai'r claf fynd at yr offeiriad.

17. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cyhoeddi'r claf yn lân; yna bydd yn lân.

18. “Pan fydd gan rywun gornwyd ar ei groen, a hwnnw'n gwella,

19. a chwydd gwyn neu smotyn cochwyn yn dod yn lle'r cornwyd, dylai ei ddangos ei hun i'r offeiriad.

20. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; dolur heintus wedi codi yn lle'r cornwyd ydyw.

21. Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn ynddo, a heb fod yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 13