Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 13:37-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

37. Os gwêl yr offeiriad fod y clafr wedi aros yr un fath, a blew du yn tyfu ynddo, y mae'r clafr wedi gwella. Y mae'r claf yn lân, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân.

38. “Pan fydd gan ŵr neu wraig smotiau gwyn ar y croen,

39. bydd yr offeiriad yn eu harchwilio, ac os bydd y smotiau yn wyn gwelw, brech wedi torri allan ar y croen ydynt; y mae'r claf yn lân.

40. “Pan fydd dyn wedi colli gwallt ei ben ac yn foel, y mae'n lân.

41. Os bydd wedi colli ei wallt oddi ar ei dalcen, a'i dalcen yn foel, y mae'n lân.

42. Ond os bydd ganddo ddolur cochwyn ar ei ben moel neu ei dalcen, y mae dolur heintus yn torri allan ar ei ben neu ei dalcen.

43. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur chwyddedig ar ei ben neu ei dalcen yn gochwyn, fel y bydd dolur heintus yn ymddangos ar y croen,

44. y mae'r claf yn heintus; y mae'n aflan. Bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan oherwydd y dolur ar ei ben.

45. “Y mae'r sawl sy'n heintus o'r dolur hwn i wisgo dillad wedi eu rhwygo, gadael ei wallt yn rhydd, gorchuddio'i wefus uchaf a gweiddi, ‘Aflan, aflan!’

46. Y mae'n aflan cyhyd ag y bydd y dolur arno; y mae i fyw ar ei ben ei hun, a hynny y tu allan i'r gwersyll.

47. “Os bydd haint oddi wrth ddolur mewn dilledyn, boed o wlân neu o liain,

48. yn ystof neu'n anwe o wlân neu o liain, neu'n lledr neu'n ddeunydd wedi ei wneud o ledr,

49. a bod yr haint yn ymddangos yn wyrdd neu'n goch yn y dilledyn neu'r lledr, mewn ystof neu anwe, neu unrhyw beth a wnaed o ledr, y mae'n heintus oddi wrth ddolur, a dylid ei ddangos i'r offeiriad.

50. Bydd yr offeiriad yn archwilio'r haint, ac yn gosod y peth y mae'r haint ynddo o'r neilltu am saith diwrnod.

51. Ar y seithfed dydd bydd yn ei archwilio, ac os bydd yr haint wedi lledu yn y dilledyn, yn yr ystof neu yn yr anwe, neu yn y lledr, i ba beth bynnag y defnyddir ef, y mae'n haint dinistriol; y mae'n aflan.

52. Dylai losgi'r dilledyn, neu'r ystof neu'r anwe o wlân neu liain, neu'r peth lledr y mae'r haint ynddo; y mae'n haint dinistriol, a rhaid ei losgi yn y tân.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 13